Psalms 24

Duw ydy'r Brenin mawr!

Salm Dafydd.

1Yr Arglwydd piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;
y byd, a phawb sy'n byw ynddo.
2Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,
a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.
3Pwy sy'n cael dringo mynydd yr Arglwydd?
Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? –
4Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;
yr un sydd ddim yn twyllo
neu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
5Mae'r Arglwydd yn bendithio pobl felly;
byddan nhw'n cael eu derbyn
i berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.
6Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato:
y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob.

 Saib
7Giatiau'r ddinas, edrychwch!
Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,
er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
8Pwy ydy'r Brenin gwych yma? –
yr Arglwydd, cryf a dewr,
yr Arglwydd sy'n ennill pob brwydr!
9Giatiau'r ddinas, edrychwch!
Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,
er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
10Pwy ydy'r Brenin gwych yma? –
Yr Arglwydd holl-bwerus!
Fe ydy'r Brenin gwych!

 Saib
Copyright information for CYM